Fe wnaethoch chi chwilio am Hywel Dda
mab Anarawd ap Rhodri Fawr. Dechreuodd deyrnasu yng Ngwynedd yn 916 ac wedi peth gwrthsefyll cydnabu benarglwyddiaeth teyrnas Wessex. Collodd ei fywyd mewn cyrch aflwyddiannus yn erbyn y Saeson yn 942, alltudiwyd ei feibion, a daeth yr awdurdod i ddwylaw ei gefnder, Hywel Dda. Er i ddau o'i feibion, sef Iago ac Ieuaf, gael dychwelyd yng nghwrs amser, trwy fab iau, Meurig, y trosglwyddwyd ei waed ef i brif linach deyrnasol Gwynedd y canol oesoedd.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.